Elizabeth AnnOWENDymuna Richard, Alwena a theulu'r ddiweddar Beti ddiolch am yr holl arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn ystod eu profedigaeth.
Diolch o galon i'r Parchedigion Huw Pritchard, Christopher Prew ac R. O. Jones am eu gwasanaeth urddasol ac hefyd i Elma Parry am ei chyfraniad wrth yr organ.
Mawr iawn hefyd yw ein diolch i R & J Hughes a'i Fab am yr holl drefniadau trylwyr a phroffesiynol, a'u parodrwydd i'n cynghori a'n harwain trwy'r cyfan.
Diolch am y cyfraniadau ariannol hael a dderbyniwyd, a bydd y swm sylweddol yn cael ei drosglwyddo i Gronfa Mynwent Ebenezer, Rhosmeirch er cof am Beti.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth